Helo, bawb!
Lliwiau lingo newydd • Lliwiau lingo newydd Mae cod lliwiau i’ch helpu chi i ddarllen lingo newydd.
Lingo Newydd
EICH TUDALEN CHI
Caru llwyau cawl • Mae John Rees yn arbenigwr ar hen bethau. Y tro yma mae o’n edrych ar hanes llwyau cawl. Roedden nhw wedi’u gwneud o bren. Yn wahanol i lwyau caru, roedden nhw’n ddefnyddiol ac yn blaen…
Dw i’n hoffi… gyda Ewan Smith • Awdur ydy Ewan Smith. Mae o’n dod o’r Alban yn wreiddiol ond rŵan mae’n byw ym Mae Colwyn. Mae o wedi cyhoeddi ei nofel Gymraeg gyntaf, Hen Ferchetan…
Darlunio a dysgu Cymraeg • Mae Joshua Morgan yn arlunydd o Gaerdydd. Dechreuodd e ddysgu siarad Cymraeg y llynedd. Er mwyn ei helpu i ddysgu, roedd Joshua yn gwneud lluniau i fynd efo ambell frawddeg neu ddywediad. Dechreuodd e’r prosiect ‘Sketchy Welsh’ lle mae’n rhannu darluniau a dywediadau Cymraeg. Nawr mae e wedi cyhoeddi ei lyfr Cymraeg cyntaf ‘Thirty One Ways to Hoffi Coffi’ i helpu dysgwyr eraill. Yma mae e’n ateb cwestiynau lingo newydd…
Tri chopa Cymru • Dach chi wedi dringo rhai o fynyddoedd uchaf Cymru? Beth am drio her 3 Chopa Cymru? Mae GwydionTomos yn arweinydd mynydd gyda chwmni Ar y Trywydd. Y tro yma mae o’n sôn am ddringo tri mynydd mewn gwahanol rannau o Gymru…
Ottolenghi yn ysbrydoli Medina • Dach chi’n hoffi bwyd o ardal Môr y Canoldir? Dach chi’n mwynhau bwyta lot o lysiau wedi eu coginio mewn ffordd wahanol? Mae Medina Rees yn rhedeg bwyty Medina yn Aberystwyth ers wyth mlynedd. Mae’r bwyd yn cynnwys lot o saladau a llysiau ffres. Yma mae hi’n ateb cwestiynau lingo newydd…
Mynd yn ôl i hen wlad fy Nhadau (a Mamau!) • Mae Francesca Sciarrillo yn teithio’n ôl i’r Eidal dros yr haf ac yn mynd i Rufain…
Stori gyfres – Y Dawnswyr gan Pegi Talfryn • Dach chi’n hoffi darllen straeon? Dach chi’n hoffi stori ddirgel? Dyma ail ran y stori gyfres gan PegiTalfryn. Roedd rhan gyntaf y stori yn lingo newydd ym mis Ebrill/Mai. Tiwtor Cymraeg ac awdur ydy Pegi. Mae hi wedi ysgrifennu llyfrau a chyrsiau i oedolion sy’n dysgu Cymraeg. Mae hi’n dod o’r Unol Daleithiau yn wreiddiol ond rŵan mae hi’n byw yn Waunfawr wrth ymyl Eryri…
Garddio gyda natur - nid yn ei erbyn • Yn ei golofn y tro yma, mae Iwan Edwards yn rhoi cyngor ar sut i dyfu’n organig a rheoli chwyn. Mae o’n un o gyflwynwyr y gyfres Garddio a Mwy ar S4C ac yn byw ym Mhont yTŵr yn Sir Ddinbych…
Colofn lyfrau • Dach chi’n hoffi darllen? Dach chi’n mwynhau stori dda? Mae’r golofn yma yn edrych ar lyfrau i siaradwyr newydd o’r gyfres Amdani. Mae llyfrau ar gyfer dysgwyr o bob lefel. Mae geirfa ar waelod pob tudalen o’r llyfrau yma. Dyma i chi flas o beth sydd ar gael…
Croesair ac idiom Mumph
lingo 360 • Gallwch gael erthyglau i’ch helpu i ddysgu Cymraeg yn amlach!