Error loading page.
Try refreshing the page. If that doesn't work, there may be a network issue, and you can use our self test page to see what's preventing the page from loading.
Learn more about possible network issues or contact support for more help.

Lingo Newydd

February /March 2023 - Issue 142
Magazine

Lliwiau lingo newydd • Lliwiau lingo newydd Mae cod lliwiau i’ch helpu chi i ddarllen lingo newydd.

Lingo Newydd

EICH TUDALEN CHI

Croesawu’r Gwanwyn gyda chanhwyllau • Dych chi’n edrych ymlaen at y dyddiau’n ymestyn a’r gwanwyn ar ei ffordd? Mae John Rees yn arbenigwr ar hen bethau. Y tro yma mae’n edrych ar Gŵyl FairY Canhwyllau. Roedd yn hen draddodiad o groesawu’r gwanwyn a dyddiau goleuach…

Dw i’n hoffi… gyda Pegi Talfryn • Mae PegiTalfyn yn diwtor Cymraeg ac awdur. Mae hi wedi ysgrifennu llyfrau a chyrsiau i oedolion sy’n dysgu Cymraeg. Mae hi’n dod o’r Unol Daleithiau yn wreiddiol ond rŵan yn byw yn Waunfawr wrth ymyl Eryri…

Crafu’r wyneb • Dych chi’n hoffi casglu crochenwaith? Dych chi’n hoffi crochenwaith efo lluniau traddodiadol Cymreig neu lwyau caru? Mae’r crochenydd Kate Russell yn byw ym Mro Morgannwg. Enw ei busnes ydy Skratch Studio. Mae hi’n defnyddio techneg sgraffito i addurno ei chrochenwaith. Yma mae hi’n ateb cwestiynau lingo newydd…

Crwydro coedwigoedd a llynnoedd • Mae’r Gwanwyn ar ei ffordd ac mae’n amser da i fynd i grwydro. Er bod y tywydd yn gallu bod yn gyfnewidiol, mae llawer o lefydd hardd i fynd am dro. GwydionTomos o gwmni Ar yTrywydd sy’n rhoi blas o lefydd da i fynd i gerdded…

O dan y môr a’i donnau… • Dych chi’n hoffi bwyd môr? Mae ymgyrch i drïo cael mwy o bobl i brynu pysgod a physgod cregyn o Gymru. Mae gŵr Nia Garner yn bysgotwr. Maen nhw’n mynd â phobl allan ar eu cwch i ddysgu mwy am bysgod a physgota. Mae Nia yn rhan o’r grŵp Merched Mewn Pysgodfeydd (WIWF). Yma mae hi’n ateb cwestiynau lingo newydd…

Cregyn bylchog a sbrowts St Jacques

Croeso i ‘Cucina Francesca’! • Mae Francesca Sciarrillo yn rhoi awgrymiadau ar gyfer coginio bwyd Eidalaidd yn ei cholofn y tro yma… Buon Apetito!

Colofn lyfrau • Dach chi’n hoffi darllen? Dyma golofn newydd sy’n edrych ar lyfrau o bob math. Y tro yma mae lingo newydd yn edrych ar lyfrau’r gyfres Amdani. Mae llyfrau ar gyfer dysgwyr o bob lefel. Mae geirfa ar waelod pob tudalen o’r llyfrau yma. Dyma i chi flas o beth sydd ar gael…

Yma o hyd • Dych chi eisiau dysgu mwy am hanes yr iaith Gymraeg? Mae Stori’r Iaith yn gyfres ddogfen newydd ar S4C sy’n edrych ar stori’r Gymraeg ar hyd y canrifoedd. Bydd pedwar cyflwynydd gwahanol yn siarad am eu perthynas nhw gyda’r iaith. Y pedwar ydy Sean Fletcher, Lisa Jên, Alex Jones ac Elis James. Yma mae Sean Fletcher yn ateb cwestiynau Lingo newydd…

Creu gwarchodfa natur…yn eich gardd! • Dach chi’n hoffi garddio? Dyma golofn newydd gan Iwan Edwards. Mae o’n un o gyflwynwyr y gyfres Garddio a Mwy ar S4C. Mae o’n byw yn Sir Ddinbych. Y tro yma mae o’n rhoi syniadau am sut i greu gwarchodfa natur fach yn eich gardd…

Croesair • Cofiwch, un llythyren ydy th

Gair am air • Dych chi wedi gorfod darllen rhywbeth yn union fel mae wedi cael ei ysgrifennu? Dych chi wedi bod mewn llys, efallai, ac wedi gorfod darllen datganiad “gair am air” – dyma beth ydy ystyr idiom Mumph.

Expand title description text
Frequency: Every other month Pages: 20 Publisher: Golwg Cyf Edition: February /March 2023 - Issue 142

OverDrive Magazine

  • Release date: February 10, 2023

Formats

OverDrive Magazine

Languages

Welsh

  • Details

    Frequency:
    Every other month
    Pages:
    20
    Publisher:
    Golwg Cyf
    Edition:
    February /March 2023 - Issue 142

    OverDrive Magazine
    Release date: February 10, 2023

  • Formats
    OverDrive Magazine
  • Languages
    Welsh